• Amgylcheddau Dynol Newidiol

    Byddwch chi yn gweld bod pob elfen wedi ei rannu fewn i sectorau gwahanol.

    Nod - Dyma thema'r elfen astudio.

    Amcanion - Dyma beth fyddwch chi yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ohonno wrth astudio'r Adnoddau Addysgu a'r Tasgau Adolygu.

    Adnoddau Addysgu - Rhain sydd yn rhoi'r cefndir o rhan cynnwys ffeithiol i chi.

    Tasgau Adolygu - Rhain sydd yn help chi i grynhoi y prif syniadau'n ymwneud a phob elfen.

    Thema 1 - Ymchwilio i Newid Poblogaeth
  • Dan Gadarn Goncrit - Mihangel Morgan

    Arholiad Llafar Terfynol ac asesiad synoptig - Tua 3/4 awr.(15%)

    Gall yr arholwr ofyn i'r ymgeiswyr ymdrin â phynciau megis y rhai a ganlyn:

    • arwyddocâd digwyddiadau;
    • cymeriadaeth;
    • perthynas pobl â'i gilydd;
    • arddull;
    • themâu;
    • y darlun o gymdeithas a'r cyfnod;
    • agwedd yr awdur at fywyd fel y'i cyflwynir trwy ei waith.

    Bydd rhyddid gan ymgeiswyr i gyfeirio at lenyddiaeth arall a ddarllenwyd.  Yn ogystal, disgwylir i'r ymgeiswyr ystyried dehongliadau eraill, a dylid dyfynnu a defnyddio termau gwerthfawrogi llenyddiaeth.